Croeso i Hwb Uwchaled

Sefydlwyd Hwb Uwchaled fel grwp elusennol yn 2023 gan aelodau o’r pedwar Cyngor Cymunedol yn Uwchaled, sef Pentrefoelas, Cerrigydrudion, Llanfihangel GM a Llangwm. Mae’r Hwb yn gartref i’n llyfrgell leol ac mae hefyd yn fan cyfarfod ar gyfer grwpiau a gweithgareddau amrywiol i’r rhai sy’n chwilio am gyngor, cwmnïaeth a gofod cynnes. Mae wedi ei leoli yng nghanol pentref Cerrigydrudion, gyda mannau parcio pwrpasol a mynediad hygyrch.
Hwb Uwchaled © 2025 Website designed and maintained by H G Web Designs

Cyngor ar Bopeth Conwy

Mae dau gynghorydd ar gael ar y safle bob yn ail ddydd Gwener, yn cynnig gwasanaeth galw heibio cyfleus - nid oes angen apwyntiad.

Cartrefi Conwy

Mae Swyddog Tai yn cynnal sesiynau galw heibio yn y llyfrgell bob yn ail wythnos rhwng 10:00yb a 12:00yp, gan helpu gyda materion tai ac ateb unrhyw gwestiynau perthnasol.

Gofod Gynnes

Mwynhewch baned a bisged yn ystod oriau'r llyfrgell ar ddydd Mawrth. Dewch i ymuno â ni am sgwrs yn ein gofod cynnes, croesawgar.

Llogi Ystafell

Mae’r Hwb ar gael ar ddydd Llun, dydd Mercher, a bob yn ail ddydd Gwener ac mae’n lle delfrydol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Os ydych am gynnal cyfarfodydd busnes, ymgynnull gyda ffrindiau, cynnal gwersi neu sesiynau hobi, mae'r Hwb yn cynnig amgylchedd croesawgar.

Gofod Gweithio

Ydych chi’n gweithio o bell ac yn dymuno gofod tawel i wneud hynny? Mae yma ddesgiau, cadeiriau cyfforddus ynghyd â Wi-Fi am ddim, wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i fod yn gynhyrchiol mewn amgylchedd hamddenol a chyfforddus.

Gwasanaeth Llyfrgell

Mae'r llyfrgell ar agor i'r cyhoedd bob dydd Iau, gan gynnig dewis da o lyfrau oedolion a phlant sydd ar gael i'w benthyca. Gall aelodau'r llyfrgell hefyd ddefnyddio'r cyfrifiaduron sydd ar gael, argraffu neu sganio dogfennau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau tymhorol a heriau darllen.

Gwasanaethau

Hwb Uwchaled
Hwb Uwchaled
hwb uwchaled
ENGLISH ENGLISH

Croeso i Hwb

Uwchaled

Hwb Uwch aled
ENGLISH ENGLISH
Hwb Uwchaled
hwb uwchaled
Adref Adref
Cyfleusterau Cyfleusterau
Cysylltu a Ni Cysylltu a Ni

  • ADREF
  • CYFLEUSTERAU
  • CYSYLLTU
  • HOME
  • AMENITIES
  • CONTACT